Ryan Giggs a Gareth Bale yn gwylio Cymru yn ymarfer heddiw
Mae’r heddlu wedi atgoffa cefnogwyr pêl droed y bydd alcohol yn cael ei wahardd ar drenau sy’n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd yfory.

Mae disgwyl i dros 70,000 o gefnogwyr deithio i’r brifddinas ar gyfer gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe fydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn bresennol ar y trenau er mwyn gwrachod y teithwyr a’r staff.

Mae’r gwaharddiad alcohol yn cynnwys pob trên sy’n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd gan gynnwys gwasanaethau i Lundain, Bryste, Abertawe a Chaerfyrddin yn ogystal â’r llinellau o’r cymoedd.

“Fe fydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig i gefnogwyr Cymru a Lloegr ac fe fydd ein heddweision ni’n helpu pawb i fwynhau yn ogystal â sicrhau bod pawb yn ddiogel,” meddai’r Arolygydd Stuart Middlemas o  Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

“Fe fydd heddweision yn bresennol yng ngorsafoedd ac ar drenau rhwng Llundain a Chaerdydd. Fyddwn nhw ddim yn caniatáu unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae trenau yn gallu fod yn brysur iawn yn ystod digwyddiadau chwaraeon mawr ac r’yn ni’n annog cefnogwyr i ystyried teimladau teithwyr eraill a chymedroli eu hiaith a’u hymddygiad.

“Fe fydd unrhyw un sy’n camfihafio yn wynebu achos llys yn ogystal â methu’r gêm.”

Mae Trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnig gwasanaethau ychwanegol ar gyfer teithiau i mewn i Gaerdydd ar gyfer y gêm.