Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent
Bydd trigolion ardal Wrecsam yn gallu archebu dau docyn am bris un i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, y bydd yn cyfrannu £25,000 at gynllun i ddarparu 10,000 o docynnau dau am bris un ar gyfer penwythnos cyntaf y Brifwyl.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni.

“Wrth wneud y cynnig yma ar gyfer mynediad i Faes yr Eisteddfod,  rydw i’n mawr obeithio y byddwn yn denu nifer o deuluoedd i’r maes i fwynhau gweithgareddau’r Brifwyl,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae denu pobl leol i fod yn rhan o hwyl yr Eisteddfod a dysgu mwy am ŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru yn hollbwysig.  Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn hwb i’r economi leol.”

Daw’r cynllun ar ôl llwyddiant cynnig tocynnau am ddim i drigolion Blaenau Gwent ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ei fod yn ddiolchgar i’r Gweinidog ac i Lywodraeth y Cynulliad am eu cefnogaeth barhaus.

“Rydyn ni’n credu y bydd y cynllun hwn yn apelio at bobl ardal Wrecsam,” meddai.

“Mae’r Eisteddfod yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth y gymuned leol, ac mae’r cynllun hwn yn ffordd o roi cyfle i bobl yr ardal gael blas ar yr iaith, diwylliant Cymru a’r Eisteddfod ar stepen y drws.

“Mae penwythnos cyntaf y Brifwyl wedi ennill ei blwyf fel penwythnos i’r teulu, ac mae’r cyfraniad hwn gan y Llywodraeth a’r tocynnau dau am bris un a fydd ar gael yn ei sgil yn siŵr o sicrhau y bydd nifer fawr o deuluoedd lleol yn cael cyfle i fwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod, a’n gobaith yw y bydd nifer ohonyn nhw’n dychwelyd am ddiwrnod arall yn ystod yr wythnos.”

Bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi manylion llawn y cynllun dros yr wythnosau nesaf. Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

“Rwy’n annog teuluoedd Wrecsam i fanteisio ar y cynnig hwn ac i ddod i’r Eisteddfod i brofi bwrlwm yr ŵyl,” meddai cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws.

“Bydd yn gyfle i deuluoedd flasu, clywed a defnyddio’r Gymraeg ac i brofi llu o weithgareddau ym mhob cornel o’r maes mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.”