Dafydd Wigley
Mae yna amheuon newydd am annibyniaeth S4C dan y BBC yn dilyn cyfarfod rhwng yr Arglwyddi yn San Steffan a Mark Thompson, Chyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, oedd yn y cyfarfod ddydd Mercher, ei fod ar ddeall bod y BBC am gael rywfaint o reolaeth dros S4C.

Hyd yn hyn mae’r BBC wedi mynnu y byddai gan S4C annibyniaeth lwyr, er y bydd y sianel yn cael ei hariannu yn rhannol o goffrau’r gorfforaeth o 2013 ymlaen.

Dywedodd Dafydd Wigley wrth Golwg 360 ei fod ef ac aelodau eraill Tŷ’r Arglwyddi wedi cael yr argraff bod S4C yn mynd i golli rhwyfaint o’i hannibyniaeth fel rhan o gynlluniau newydd sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd.

Mae Golwg 360 yn deall y bydd y BBC yn chwilio am ryw fath o reolaeth tros S4C – efallai trwy gael yr hawl i adolygu eu gwasanaethau, fel y mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi bod yn ei wneud gyda rhai o’i gwasanaethau ei hun yn ddiweddar.

Annibyniaeth S4C ‘yn diflannu’

“Yn y cyfarfod gyda Mark Thompson fe gefais innau ag aelodau eraill yr argraff bendant y byddS4C yn ddarostyngedig i system y BBC,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley wrth Golwg 360.

Dywedodd ei fod o wedi cael yr argraff y gallai aelodau o’r ymddiriedolaeth eistedd ar o Fwrdd Awdurdod a Bwrdd Rheoli’r sianel.

Ychwanegodd Dafydd Wigley y “bydd annibyniaeth S4C yn diflannu” os oes gan y BBC reolaeth dros yr arian y mae’r sianel yn ei dderbyn.

“Ni fydd y sianel fyth yn annibynnol os na fydd S4C yn derbyn yr arian yn uniongyrchol yn ogystal â’r hawl i reoli’r sianel yn llwyr,” meddai.

Fe fydd pleidlais yn cael ei gynnal ddydd Llun yn Nhŷ’r Arglwyddi ar dynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Mae’r mesur yn cynnwys yr hawl i weinidogion ddiddymu unrhyw gorff sydd ar y rhestr – gan gynnwys S4C.

Mae’r gwelliant fyddai’n tynnu S4C allan o’r ddeddf wedi ei gynnig gan yr Arglwydd Roger Roberts o Landudno.