Fe allai Cymru ddenu rhagor o gwmnïau i’r wlad drwy ennill yr hawl i osod eu treth eu hunain ar fusnesau, yn ôl economegydd blaenllaw.

Mae Trysorlys eisoes yn ymgynghori ar ddatganoli’r grym i godi a gostwng y dreth ar gwmnïau i Ogledd Iwerddon, a dywedodd John Ball o Brifysgol Abertawe y byddai’r grymoedd hefyd o fudd i Gymru.

Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne yn ei Gyllideb ddydd Mercher y byddai’n torri’r dreth gorfforaethol 2%.

Bydd y dreth ar fusnesau ym Mhrydain yn syrthio i 23% dros y pum mlynedd nesaf, sy’n uwch o lawer na’r dreth 12% ar fusnesau yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd Joe Ball y byddai gostwng y dreth gorfforaethol ymhellach yn hybu twf a datblygiad o fewn cwmnïau.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi rhoi’r grym i Lywodraeth y Cynulliad godi neu ostwng y dreth ar fusnes, ond mae’r Blaid Lafur yn erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur mai’r rheswm yr oedd Llywodraeth  San Steffan yn ystyried rhoi’r grym i Ogledd Iwerddon ostwng y dreth ar fusnesau oedd bod y dreth yn llawer is dros y ffin yng Ngweriniaeth Iwerddon.

“Mae cais Gogledd Iwerddon yn unigryw am ei fod yn rhannu ffin â’r Weriniaeth ble mae’r dreth ar fusnesau ar ei isaf yn Ewrop,” meddai’r AS Owen Smith wrth bapur newydd y Western Mail.

“Y ddadl yw a ydi hi’n deg i George Osborne dorri trethi i fusnesau mawr wrth ofyn i deuluoedd dalu rhagor o drethi ac ysgwyddo baich costau byw uwch.”