Mae dyn ddyn arall wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yng Nghasnewydd.

Daethpwyd o hyd i Ramaz Raulinautis, 34 oed, wedi llosgi’n ddifrifol y tu allan i westy’r Gateway Express yng Nghasnewydd, ar 9 Mawrth.

Fe fu farw yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ar 12 Mawrth.

Cafodd dyn 27 oed o Gasnewydd ei gyhuddo o lofruddio Ramaz Raulinautis yn gynharach yn y mis.

Cafodd y ddau ddyn arall, 29 a 21 oed, eu cyhuddo o losgi bwriadol ac o lofruddio, ac fe fyddwn nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili heddiw.