Gwenda Thomas
Mae mudiad ymgyrchu ym maes gofal wedi croesawu penderfyniad y Llywodraeth i osod uchafswm o £50 yr wythnos ar gost gofal yn y cartref i bobol oedrannus ac anabl.

Ond mae’r Gynghrair tros Daliadau yng Nghymru yn dweud y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu i gael gwared ar y taliadau’n llwyr.

Mae’r rheiny’n cael eu talu i awdurdodau lleol am gymorth yn y cartref ac, yn ôl y Gynghrair, maen nhw’n dreth ar y slei ar ofal.

Cyhoeddi heddiw

Fe fydd manylion y costau newydd yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach heddiw gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas.

Roedd y Cynulliad wedi pasio Mesur y llynedd yn rhoi’r hawl i weinidogion amrywio costau o’r fath ac maen nhw wedi penderfynu gosod uchafswm o £50 ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Fe fydd yn golygu gostyngiad sylweddol i rai pobol – cymaint â £150 – ac mae’r Gynghrair wedi beirniadu’r drefn bresennol oherwydd yr amrywiaeth mawr o ardal i ardal.

‘Gwell eu byd’

“Trwy hyn a thrwy fesurau eraill gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe fydd llawer o bobol anabl, pobol oedrannus a gofalwyr, sy’n aml yn cael eu taro galetaf gan doriadau llywodraeth, yn awr yn well eu byd na phobol debyg yng ngweddill y Deyrnas Unedig,” meddai Rhian Davies,Cadeirydd y Gynghrair.

“Dyw’r wobr eithaf o ddileu’r taliadau ddim wedi ei chael eto ond gall pawb sydd wedi bod yn rhan o’r Gynghrair fod yn falch ein bod, trwy lobïo cyson, wedi lliniaru rhai o efeithiau gwaetha’r taliadau yng Nghymru.”