Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud ei fod yn annhebygol y bydden nhw’n gallu dod i gytundeb â’r Ceidwadwyr neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad.

Ar ôl Etholiad 2007 roedd Plaid Cymru yn barod i fynd i gytundeb enfys â’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ddigwyddodd hynny ddim yn y pen draw ac fe aeth Plaid Cymru i glymblaid â’r blaid Lafur.

Ond dywedodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn annhebygol y bydden nhw’n atgyfodi’r glymblaid enfys, gan fod y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd mewn clymblaid yn San Steffan.

“Fe fyddai’n anodd dod i unrhyw fath o gytundeb â’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil y toriadau y mae Llywodraeth Prydain wedi eu gorfodi arnom ni,” meddai Aelod Cynulliad Ynys Môn.

Cynhadledd

Fe fydd Plaid Cymru yn cynnal eu cynhadledd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, y penwythnos yma.

Mae’r blaid yn cwrdd ychydig dros fis cyn Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai, ac mae disgwyl mai’r economi fydd un o’r prif bynciau trafod.

Wrth siarad ar drothwy’r digwyddiad, dywedodd Ieuan Wyn Jones heddiw fod “pobol yn gwybod fod gennym ni’r gallu i lywodraethu dros Gymru”.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog fod Plaid wedi ennill hygrededd yng ngolwg y cyhoedd ers ffurfio llywodraeth glymblaid â Llafur yn 2007.

Ychwanegodd fod digwyddiadau’r pedair blynedd diwethaf wedi profi y gall pleidleiswyr roi eu ffydd yn y blaid.

“Byddwn ni’n ymladd am bob pleidlais yn yr etholiad, ond byddwn ni hefyd yn barod i siarad ag eraill wedyn os oes angen ffurfio clymblaid,” meddai.

Toriadau

Dywedodd Ieuan Wyn Jones mai toriadau San Steffan fydd un o’r prif bynciau trafod yn y Cynulliad yn ystod y tymor nesaf.

“Mae pobol eisiau gwybod sut y byddwn ni’n gwella’r sefyllfa, a’r ateb yw y byddwn ni’n parhau i ymladd am y ddêl gorau i Gymru,” meddai.

“Mae angen fformiwla ariannu deg i Gymru, ac yn sicr nid dyna y mae Fformiwla Barnett yn ei gynnig.”