Seren môf
Mae trigolion ardal glan môr yng Ngwynedd wedi galw am ymchwiliad wedi i gannoedd o sêr môr marw ymddangos ar draeth dros y dyddiau diwethaf.

Daethpwyd o hyd i’r sêr môr marw ar draeth Talybont, rhwng Harlech a’r Bermo, ac mae’n debyg eu bod yno ers rhai dyddiau.

“Ces i wybod neithiwr,” meddai’r cynghorydd lleol Trefor Roberts, “ond mae’n debyg bod y peth wedi digwydd ers cyn hynny.

Wrth i’r tymor gwyliau agosáu, mae’r cynghorydd lleol yn poeni am yr effaith posib ar y diwydiant twristiaeth.

“Byddai’n gas gen i feddwl mai rhyw fath o lygredd sy’n gyfrifol am y marwolaethau yma,” meddai.

Dywedodd wrth Golwg 360 ei fod wedi galw am ymchwiliad gwyddonol i farwolaethau’r sêr môr.

Mae’n disgwyl derbyn adroddiad yn ôl gan swyddog morwrol Gwynedd erbyn dydd Llun.

Effaith ar dwristiaeth

Dywedodd swyddog morwrol Gwynedd, Barry Davies, ei bod hi’n beth cyffredin gweld cynifer o sêr môr yn cael eu golchi i’r traeth yn ystod llanw’r gwanwyn, er eu bod nhw ymhellach i’r gogledd na sy’n gyffredin.

Mae’n bosib bod y sêr môr, sydd fel arfer yn ddibynnol ar gerrig gleision a chramenogion eraill, wedi symud oherwydd diffyg bwyd, meddai.

Roedd yn hyderus nad llygredd sydd ar fai, ac nad yw’n debygol fod llong wedi codi’r sêr môr mewn camgymeriad ac yna’u gollwng yn ôl.

Dywedodd nad yw’r sêr môr yn peryglu neb, ac y bydd y gwylanod wedi eu bwyta mewn dim o dro.