Gareth Jones
Mae angen i Lywodraeth Cymru lunio deddf yn rhoi hawl gyfreithiol i bobol gael dysgu’r iaith Gymraeg.

Dyna mae Aelod Cynulliad Aberconwy wedi ei ddweud yn Siambr y Cynulliad yr wythnos hon.

Mae Gareth Jones yn gweld bod modd edrych ar greu deddf hawliant ddwyieithrwydd yn y tymor nesaf, ac y byddai hyn yn “rhoi’r hawl i’r unigolyn, yn ôl dymuniad yr unigolyn, i gael mynediad  at broses o addysgu, fyddai yn hwyluso’r ffordd iddo fo neu hi ddysgu Cymraeg”.

“Dw i’n cydnabod bod yna waith da yn digwydd efo Bwrdd yr Iaith a mentrau iaith ac ati, ond mae o’n dal yn ddarniog, dydi o ddim ar gael ym mhob man yng Nghymru,” meddai’r cyn-brifathro sy’n rhoi’r gorau i fod yn AC ymhen mis.

Mae’n dweud fod pobol yn ei etholaeth wedi dod ato yn cwyno nad oedden nhw yn gwybod lle i fynd er mwyn medru dysgu Cymraeg, a ddim yn gwybod pa adnoddau oedd ar gael iddyn nhw.

Yn ôl Gareth Jones mae yna rai “yn awyddus i ddysgu ond yn methu cael cyfleoedd” neu ddim yn cael y “cyfle gan gyflogwr… ac weithiau mae’r cyrsiau sydd ar gael mewn Colegau Addysg Bellach yn ddrud i bobol a dw i’n meddwl bod yna lawer o bobol yn cael eu siomi”.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Mawrth