Brian May - am barhau i ymgyrchu (David J. Cable CCA 2.0)
Mae’r Llywodraeth a ffermwyr wedi croesawu pleidlais y Cynulliad o blaid arbrawf i ddifa moch daear.

Ond mae seren roc wedi addo y bydd yn parhau i ymgyrchu yn erbyn y cynllun sy’n rhan o’r ymdrech i atal TB – diciâu – mewn gwartheg.

Fe ddywedodd Brian May, gitarydd y band Queen, y byddai’n cefnogi Ymddiriedolaeth y Moch Daear pe baen nhw’n penderfynu dwyn achos llys i herio cynlluniau’r Llywodraeth.

Ailwampio

Fe lwyddodd achos tebyg y llynedd ond mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, wedi ailwampio’r gorchymyn difa a, ddoe, fe gafodd gefnogaeth mwyafrif yn y Cynulliad.

Fe ddywedodd hi bod y diciâu ar gynnydd ymhlith gwartheg yn yr ardal ddifa – Sir Benfro’n bennaf a rhannau Geredigion a Sir Gâr – a bod difa’n angenrheidiol.

Ond mae’r Llywodraeth wedi bod yn awyddus i bwysleisio bod difa’n rhan o raglen lawer ehangach sy’n cynnwys rhagor o brofi a chyfyngiadau ar symud gwartheg.

Cynnig i atal y difa

Roedd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, wedi dod â chynnig gerbron i geisio atal y difa ond fe gafodd ei guro.

Roedd Brian May yn y Cynulliad i wrando ar y ddadl ond fe ddywedodd wrth Golwg 360 nad oes prawf y byddai difa’n gweithio.

“Dyw’r ddadl bod moch daear yn cyfrannu at ledu’r clefyd ddim wedi ei phrofi,” meddai. “Mae’r ffordd y mae’r diciâu’n cael ei drosglwyddo o fuwch i foch daear yn un digon hawdd i’w deall ond dyw’r ffordd y mae mochyn daear wedyn yn ail heintio buwch, ddim wedi cael ei brofi.”

Mae’r gitarydd, sydd hefyd yn astroffisegydd, wedi bod yn cefnogi ymgyrchwyr yn erbyn difa moch daear yn Sir Benfro ac mae’n dweud mai brechu gwartheg yw’r ateb.

‘ Mi fydda’ i’n parhau i wneud be dwi’n ei wneud sef hybu ymwybyddiaeth.  Mae pobol yn fy adnabod i. Mae yna  gyfran o bobol sy’n fodlon  gwrando arna’ i.”