Port Talbot (Chris Shaw CCA 2.0)
Mae ymgyrchwyr yn erbyn gorsaf losgi coed ym Mhort Talbot yn dweud eu body n “siomedig iawn” gyda phenderfyniad i lacio’r cyfyngiadau ar lygredd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cymeradwyo newidiadau i drwydded amgylcheddol yr orsaf ynni ddadleuol sy’n cael ei chodi gan gwmni Prenergy.

Dywedodd y cynghorydd lleol Ted Latham fod y penderfyniad yn un “siomedig iawn,” ond fod gwrthwynebwyr y prosiect yn “hanner ei ddisgwyl”.

Roedd yr Asiantaeth yn dweud na fyddai’r newidiadau’n effeithio ar iechyd y cyhoedd a’u bod wedi cael cyngor gan y Bwrdd Iechyd lleol.

Yr ymgyrch yn parhau

Ond mae’r grŵp ymgyrchu PT-Reps, sydd wedi bod yn protestio yn erbyn y cynllun ers i’r cais cynllunio gwreiddiol gael ei gyflwyno yn 2007, yn dweud nad yw’r ymgyrch drosodd, “o bell ffordd”.

“Does dim un bricsen wedi ei gosod eto,” meddai Ted Latham, sy’n dweud bod yr ymgyrch wedi llwyddo i “ohirio’r cynllun, os nad ei atal”.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn rhagweld y byddai’r orsaf losgi pren yn ei lle, ac yn gweithio, erbyn 2012.

Pryderon

Mae nifer o drigolion lleol yn poeni y bydd yr orsaf bwer, yr un fwyaf yn y byd i losgi pelenni pren, yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd leol a iechyd pobol yr ardal.

“R’yn ni wedi bod trwy ddigon, gyda’r gwaith dur a chwbwl,” meddai Ted Latham. “Mae pryderon go iawn ynglyn â beth fydd yr orsaf yma yn ei chwydu allan i’r amgylchedd lleol.”

Yn ôl y cynghorydd, un o’r pryderon mwyaf yw’r ffaith nad yw rhagolygon llygredd y cwmni wedi eu seilio ar enghreifftiau go iawn, gan nad oes gorsaf debyg yn y byd.

“Mae’r cwmni wedi pellhau eu hunain oddi wrthon ni,” meddai Ted Latham, “gan osgoi dod allan i gwrdd â ni a’n pryderon. D’yn nhw ddim yn ein llenwi ni â ffydd,” meddai.

Un o ofidiau PT-Reps yw y bydd Prenergy yn gwerthu’r orsaf i gwmni arall na fydd wedi bod yn rhan o’rbroses ymgynghori.

Cymeradwyaeth yr Asiantaeth

Cyflwynwyd cais gan gwmni Prenergy i newid rhai agweddau ar eu Trwydded Amgylcheddol wreiddiol ym mis Awst y llynedd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad manwl i ystyried y risg o niwed i iechyd a safon yr aer a’u bod wedi dod i’r casgliad na fydd y newid yn effeithio ar yr iechyd gyhoeddus.

Y newidiadau i’r drwydded sydd wedi eu cymeradwyo gan Asiantaeth yr Amgylchedd yw:

  • Cynyddu’r lefel N2O sy’n cael ei ollwng i’r awyr.
  • Cynyddu’r lefel SO2 a HCl sy’n cael ei ollwng i’r awyr.
  • Caniatáu defnyddio pelenni pren yn ogystal â sglodion pren.

Barn yr Asiantaeth

Er bod y newidiadau’n cynyddu’r lefel o lygredd i’r awyr, mae’r Asiantaeth yn mynnu bod y lefelau yn parhau’n ddiogel o fewn canllawiau Llywodraeth Prydain.

Dywedodd Mary Youell, o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, na fyddai’r Asiantaeth wedi derbyn y newidiadau petaen nhw’n meddwl “fod y newidiadau yn mynd i effeithio’n wael ar safon yr aer neu’r cymunedau yr ydyn ni yn eu gwarchod.”