Ysbyty Maelor - chwech ward ynghau
Mae 66 claf a deg aelod o staff wedi cael eu heintio â’r clefyd norofirws mewn ysbytai yn ardal Wrecsam a Sir y Fflint.

Ar hyn o bryd, mae ymwelwyr yn cael eu hatal rhag mynd i wardiau yn Ysbyty Gyffredinol Maelor yn Wrecsam ac i ddau ysbyty arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrth Golwg 360 fod tri ysbty wedi eu heffeithio mor belled – chwech ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, dwy yn Ysbyty’r Waun ac un yn Ysbyty’r Wyddgrug.

Mae mesurau brys wedi cael eu cymryd i ddelio â’r firws sy’n gwneud i bobol daflu i fyny ac sy’n gallu bod yn beryglus i bobol fregus.

Lledu’n rhwydd

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd fod rhaid cymryd camau arbennig i ddelio â’r norofirws, “gan ei fod yn lledaenu’n hawdd o un unigolyn i’r llall”.

“Rydym yn gobeithio rheoli a chael gwared â’r firws trwy gyfyngu ar ymwelwyr ac osgoi cyswllt rhwng cymaint o bobl â phosib tan o leiaf 48 awr wedi i’r symptomau glirio,”meddai.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn dweud y byddan nhw’n dal ati i ddiweddaru’r wybodaeth i’r cyhoedd, ac yn gadael i bawb wybod pan fydd y sefyllfa wedi ei datrys.

Yn y cyfamser, maen nhw’n galw ar bobol sy’n dangos symptomau – sy’n cynnwys teimlad cyfoglyd sydyn, poen stumog, a chwydu hyrddiol neu ddolur rhydd – i gysylltu â nhw cyn dod i’r ysbyty, er mwyn gwneud trefniadau o flaen llaw i atal yr haint rhag lledu ymhellach.