Edwina Hart - cyhoeddi'r buddsoddiad
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £38miliwn yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, meddai’r Gweinidog Iechyd.

Yn ôl Edwina Hart, fe fydd hynny’n diogelu dyfodol yr unig ysbyty mawr yng nghanolbarth Cymru.

Ymhlith y cynlluniau terfynol mae ailwampio’r brif theatr, adeiladu adran frys newydd, creu uned ar gyfer llawdriniaethau undydd, ward aros-byr, uned famolaeth newydd a gwasanaethau meddyg teulu tros nos.

Fe fydd rhagor o waith datblygu a moderneiddio mewn mannau eraill yn yr ysbyty hefyd, meddai Ediwna Hart, gyda’r gwaith yn dechrau ym mis Mai ac yn parhau am bron ddwy flynedd.

Cynghorydd yn croesawu

Fe ddywedodd un o gynghorwyr lleol ardal Aberystwyth, Ellen ap Gwynn, ei bod yn “croesawu’r newyddion yn fawr iawn”.

“Rydan ni wedi bod yn ymladd am hyn ers blynyddoedd ac wedi aros yn hir. Rydan ni’n ddiolchgar iawn am hyn – yn arbennig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni,” meddai wrth Golwg360.

‘Diogelu’r dyfodol’

Fe ddywedodd Edwina Hart y byddai’r buddsoddiad yn “sicrhau dyfodol tymor hir yr ysbyty”.

“Bydd y cyfleusterau newydd yn gwella gofal i gleifion drwy sicrhau fod y Bwrdd Iechyd yn gallu cynnal a gwella targedau amseroedd aros yn ogystal â gwella amgylchedd gwaith y staff.”