Elin Jones - 'wedi gwrando'
Cymysg yw ymateb ffermwyr Cymru i newidiadau yng nghynllun ffermio dadleuol Glastir.

Mae’r ddau undeb amaeth wedi ymateb yn union yr un fath – yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ildio llawer ond yn dweud nad yw hynny’n mynd yn ddigon pell.

Fe gafodd y newidiadau eu cyhoeddi ddoe ar ôl i adolygiad annibynnol o’r cynllun newydd wneud 60 o argymhellion.

Derbyn argymhellion

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, ei bod yn derbyn llawer o’r rheiny, y bydd rhai’n cael eu gweithredu ar unwaith ac eraill yn gofyn am ychydig o waith.

Roedd yr arolwg wedi’i sefydlu gan y Gweinidog ar ôl beirniadaeth eang gan ffermwyr ac ar ôl i niferoedd cymharol siomedig benderfynu ymuno â’r cynllun sy’n dechrau fis Ionawr nesa’.

Nod y cynllun yw talu i ffermwyr am waith i wella’r amgylchedd ond mae llawer o ffermwyr yn dweud bod gormod o bwyslais ar hynny ar draul cynhyrchu bwyd.

Fe fydd yn disodli nifer o gynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill, fel Tir Gofal, Tir Cymen a Thir Mynydd.

Y newidiadau

Mae’r newidiadau’n cynnwys ei gwneud yn haws i ffermydd dwys ymuno â’r cynllun, yn rhoi mwy o gefnogaeth i’r sector organig ac yn llacio ychydig ar y gofynion ynglŷn ag elfennau fel gwrychoedd.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi dweud ei bod yn hapus ailystyried lefel y taliadau i ystyried newidiadau mewn costau sefydlog a phrisiau’r farchnad ers lansio’r cynllun.

Fe fydd ffermwyr sydd eisioes wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun yn gallu manteisio ar y newidiadau, meddai Elin Jones.

Ymateb Undeb Amaethwyr Cymru

Roedd Undeb Amaethwyr Cymru – yr FUW – yn poeni’n arbennig am ddiffyg brys tros edrych eto ar lefelau’r taliadau a bod angen rhagor o hyblygrwydd.

Os na fydd y taliadau’n gwella’n fuan, fe allai hynny danseilio rhai o’r newidiadau eraill, madden nhw.

“Nes bod y costau’n adlewyrchu realiti’n well, dyw’r cynllun ddim am fod yn ddeniadol i ffermwyr,” meddai Llywydd yr Undeb, Gareth Vaughan.

Ymateb NFU Cymru

MaeNFU Cymru eisiau llacio rhywfaint ar y gofynion ar ffermwyr er mwyn ei gwneud hi’n haws ymuno â’r cynllun.

Roedden nhw hefyd yn siomedig mai dim ond gwrychoedd sy’n cael eu cyfri, heb le i waliau cerrig traddodiadol.

“R’yn ni’n dal i gredu y byddia wedi bod yn well newid ychydig ar y cynlluniau amaeth amgylcheddol sy’n bod eisoes a chadw’r cynllun Tir Mynydd,” meddai Llywydd NFU Cymru, Ed Bailey.

Cefndir gwleidyddol

Mae Glastir yn cael ei ystyried yn bwnc gwleidyddol pwysig yn yr ardaloedd gwledig gan fod cymaint o ffermwyr wedi bod yn ei erbyn.

Roedd wedi tolcio ychydig ar y ddelwedd ffafriol sydd gan Elin Jones yn y gymuned amaethyddol, a hynny’n cynnwys ei sedd ei hun yng Ngheredigion.

Heddiw, roedd un o ACau arall Plaid Cymru, Nerys Evans, yn ei chanmol am dderbyn cymaint o argymhellion yr adolygiad.

Roedd hynny’n dangos bod y Gweinidog yn gwrando, meddai.