Swyddfa canolog y BBC
Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos fod BBC Cymru wedi gwario £720,000 ar letya sêr, criwiau a gweithredwyr dros gyfnod o chwe mis yn unig.

Mae’r BBC wedi amddiffyn y costau, ar ôl ymchwiliad gan gwmni MediaWales, sy’n cyhoeddi papurau newydd y Western Mail a’r South Wales Echo.

Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos fod £871,000 wedi ei wario ar drafnidiaeth ar awyrennau, trenau a cheir llog dros yr un cyfnod.

Roedd £135,000 hefyd wedi ei wario ar fwyd, gan gynnwys £150 ar fisgedi siocled, meddai’r cwmni.

Dywedodd MediaWales bod y rhan fwyaf o’r costau wedi mynd ar letya enwogion oedd yn ymddangos mewn rhaglenni gan gynnwys Doctor Who a Sherlock.

“Mae cyfraniad BBC Cymru i wasanaeth y BBC wedi cynyddu’r sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, “ meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Mae costau trafnidiaeth uwch yn ganlyniad anochel i hynny.”