Leanne Wood AC
 Mae Cymru’n cael ei hamddifadu o elw sy’n cael ei wneud o ffermydd gwynt, yn ôl un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru.

Mewn cais o dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth cafodd Leanne Wood, un o ACau rhanbarth Canol De Cymru, wybod bod ffermydd gwynt yn y môr yng nghyffiniau’r Rhyl wedi creu incwm o bron i £400,000 i Stad y Goron yn 2009-10.

Ac mae’r swm hwnnw’n debyg o gynyddu’n sylweddol wrth i safleoedd eraill, fel Gwynt y Môr gerllaw Llandudno gael eu datblygu.

Eiddo’r Frenhines yw Stad y Goron, ac mae unrhyw elw sy’n cael ei wneud yn mynd i’r Trysorlys yn Llundain i’w ddefnyddio “er budd y genedl”.

“Mae mwy neu lai’r cyfan o wely’r môr ym Mhrydain, gan gynnwys o amgylch Cymru, yn eiddo i Stad y Goron,” meddai Leanne Wood.

“Mae elw o ffermydd gwynt o gwmpas arfordir Cymru’n debyg o dyfu’n filynau o bunnau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Barn Plaid Cymru yw ei bod hi’n hen bryd i elw sy’n cael eu hennill o adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys gwely’r môr, gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru er budd pobl Cymru, ac nid i goffrau’r Trysorlys a Theulu Brenhinol sydd eisoes yn rhy gyfoethog.

“Does arnon ni ddim eisiau ailadrodd sefyllfa lle’r oedd elw anferth yn cael ei wneud gan y diwydiant glo, heb i Gymru elwa arno.”