Helen Mary Jones - cyhuddo Llafur
Mae Plaid Cymru’n honni nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud dim i geisio newid y fformiwla sy’n rhoi arian i’r wlad.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi cael atebion Rhyddid Gwybodaeth sy’n dangos nad oedd y Llywodraeth yng Nghaerdydd wedi anfon unrhyw neges at y Llywodraeth Lafur yn Llundain i geisio newid y fformiwla.

Barn arbenigwyr ariannol yw bod Cymru bellach yn cael cam dan y fformiwla ac y dylai fod yn derbyn tua £300 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn.

Roedd Plaid Cymru wedi holi’n fwriadol am y cyfnod cyn iddyn nhw ymuno gyda Llafur yn y Llywodraeth Glymblaid yn y Cynulliad.

Roedden nhw wedi gofyn am unrhyw negeseuon – e-byst, llythyrau neu gofnodion cyfarfodydd – yn dangos bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi rhoi pwysau ar y Llywodraeth Lafur yn Llundian i newid y fformiwla,  rhwng 1999 a 2007.

Condemnio

Yn ôl yr atebion, doedd dim gwybodaeth yn y categori hwnnw ac mae Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi condemnio’u partneriaid.

” Mae Llafur eu hunain wedi cydnabod fod problem gyda’r modd yr oedd Cymru yn cael ei chyllido,” meddai.

“Mae dweud fod y sefyllfa yn ‘llethu’ Cymru ac yna wneud dim am y peth yn anfaddeuol.

“Mae methiant Llafur wedi costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i economi Cymru, swyddi Cymru, addysg Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”