Rhian Yoshikawa
Mae Cymraes sy’n byw yn Japan ers 24 mlynedd yn ceisio ail-gydio yn ei bywyd bob dydd ar ôl profi nerth y daeargryn yno’r wythnos ddiwethaf.

“Mae tirgryniadau yma o hyd, ond maen nhw i weld yn mynd yn llai,” meddai Rhian Yoshikawa, sy’n byw mewn tref lan môr tua dwyawr o Tokyo. 

“Mae’n rhaid trio mynd ati i fyw bywyd normal unwaith eto, neu mi fydd pawb wedi mynd yn wallgo!” meddai Rhian sy’n athrawes Saesneg, yn fam i ddau o blant ac yn helpu yn siop llestri ei gŵr.

 “Mae fy mab wedi mynd i’r dref nesa’ i weithio fel gwirfoddolwr yn helpu gyda’r glanhau ar ôl y tsunami. Mae pawb yn gorfod gwneud rhywbeth i helpu.”

Codi lefel perygl 

Roedd Rhian eisoes wedi dweud wrth Golwg360 ddoe nad oedd ganddi unrhyw fwriad o adael y wlad, a dywedodd heddiw nad oedd y ffaith fod lefel y perygl o ymbelydredd wedi codi wedi newid ei barn.

“Dydi’r rhif ddim wedi newid llawer ar y sefyllfa, ” meddai.

 “Mae’n wir fod pawb mor boenus ag erioed.

 “Ond, nawr bod tryciau wedi dechrau chwistrellu dwr i mewn i’r adweithyddion a’r gwres wedi mynd i lawr – mae yna fymryn mwy o obaith. Hefyd mae’r llinellau trydan ar fin cael ei cysylltu eto sy’n un cam bach am y gorau.”

Soniodd Rhian hefyd am yLlywodraeth  yn dechrau profi’r lefelau ymbelydredd mewn llysiau – y tro cynta’ iddyn nhw gyfeirio at lygredd mewn bwyd ers y trychineb.

“Bydd prinder mawr efallai o hyn ymlaen a bywoliaeth y ffermwyr yn gwaethygu, ond o leia’ maen nhw’n meddwl am iechyd a diogelwch y bobl,” meddai.

Gyda Llysgenhadaeth Prydain yn cynghori pobl i gadw draw o leiaf 80km o’r orsaf, fe ddywedodd nad oedd hynny’n effeithio arni hi a’i theulu.

“Rydan ni’n byw 200km i ffwrdd,” meddai.