Poster yr orymdaith yn Llundain yr wythnos nesaf
Mae gwas sifil o Gaerdydd yn cychwyn cerdded ar daith o 166 milltir i Lundain heddiw – i dynnu sylw at brotest yn erbyn toriadau’r llywodraeth.

Fe fydd Richard Evans, 46 oed, yn ymuno â miloedd o bobl eraill yn Llundain ddydd Sadwrn nesaf i gymryd rhan yn yr orymdaith March for the Alternative.

Dywedodd Richard Evans, aelod o undeb PCS sy’n gweithio mewn swyddfa dreth incwm, y bydd yn siarad am y brotest gyda phobl y bydd yn eu cyfarfod ar y ffordd.

“Dw i’n wirioneddol bryderus am yr hyn sy’n digwydd i’n gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

“Rydych yn darllen am wasanaethau bws yn cael eu torri, llyfrgelloedd yn cau, canolfannau hamdden a thoiledau cyhoeddus yn cau.

“Wn i ddim faint o bobl sy’n llawn sylweddoli’r cysylltiad rhwng y toriadau y maen nhw’n eu profi yn eu gwasanaethau a thoriadau cyllidebol y llywodraeth.”

Ei fwriad yw cerdded trwy Gasgwent, Caerfaddon, Swindon, Newbury a Maidenhead a chyrraedd Llundain ar gyfer yr orymdaith ddydd Sadwrn.

“Dw i wedi gwneud cryn dipyn o waith paratoi,” meddai.

“Dw i’n gobeithio y bydd fy nhaith gerdded i’n annog pobl i gymryd rhan yn yr orymdaith – os galla i gerdded yno, yna fel all pobl gamu’n hawdd ar fws i Lundain.”

Cafodd glod am ei ymroddiad i’r achos gan ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka, sydd hefyd yn Gymro.

“Dw i’n edmygu ac yn parchu Richard am ei ymdrech ysbrydoledig,” meddai.

“Mae’n dilyn traddodiad balch o bobl ddosbarth gweithiol yn gorymdeithio i Lundain i fynnu cyfiawnder.

“Dw i’n gobeithio nid yn unig y bydd pobl yn dangos eu cefnogaeth i Richard ar y ffordd, ond y bydd cannoedd o filoedd ohonon ni yno i’w groesawu i Lundain.”