Blaenau'r Cymoedd
Fe fydd 200 o bobol leol yn y Cymoedd yn cael eu hyfforddi i hyrwyddo’r ardal ymhlith twristiaid.

Y nod yw rhoi gwybodaeth a hyder i’r gwirfoddolwyr fel eu bod nhw wedyn yn gallu ‘gwerthu’ eu hardaloedd.

Mae’r fenter yn cael ei chynnal gan brosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd sydd wedi derbyn £25 miliwn o arian Ewrop a’r Llywodraeth i hyrwyddo twristiaeth.

Mae trefnwyr y cyrsiau’n gobeitho denu pobol sy’n debygol o fod mewn cysylltiad ag ymwelwyr megis grwpiau cymunedol neu berchnogion llefydd gwely a brecwast.

“Mae’r prosiect yma yn sicrhau bod pobol leol yn gwybod lle yw’r llefydd gorau i fynd yn yr ardal a’u bod yn dysgu mwy am eu diwylliant lleol,” meddai Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog tros Dai ac Adfywio.

“Mae’r cynllun hefyd yn rhoi sgiliau newydd i bobol ac fe all hyn eu helpu nhw o ddydd i ddydd yn eu gwaith. Mae’n rhoi blas iddyn nhw o’r hyfforddiant sy’n bosib ac yn golygu bod modd iddyn nhw fynd ymlaen i gael cymwysterau eraill’.