Wylfa - deugain oed
Mae mudiad gwrth-niwclear wedi galw am gau atomfa Wylfa a rhoi stop ar y cynllun i godi gorsafoedd niwclear newydd.

Mewn cyfarfod brys, fe benderfynodd aelodau PAWB – Pobl Atal Wylfa B – y bydden nhw’n galw ar yr Ysgrifennydd Ynni yn Llundain, Chris Huhne, i weithredu ar unwaith yn sgil yr argyfwng mewn atomfa yn Japan.

Mae’r mudiad yn dweud bod Wylfa yr un oed â’r adweithyddion yn Fukushima Dai-ichi, lle mae’r awdurdodau’n dweud bod peryg y bydd lefelau sylweddol o ymbelydredd yn cael eu gollwng gan beryglu bywydau.

Protestiadau

Fe fydd PAWB hefyd yn cynnal cyfres o brotestiadau ac maen nhw’n galw ar Gomisiynwyr newydd Cyngor Sir Ynys Môn i roi’r gorau i drafod gyda chwmni Horizon Nuclear sydd eisiau codi adweithydd newydd yn Wylfa.

Er hynny, mae arweinydd y Cyngor wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Prydain i gomisiynu adroddiad annibynnol i’r hyn sy’n digwydd yn Japan.

Roedd hi’n bwysig cadw persbectif, meddai Clive McGregor, gan ddweud bod sefyllfa Wylfa’n wahanol ac y byddai profion diogelwch llym iawn cyn codi atomfa newydd.