Mae’r heddlu wedi croesawu dedfryd o bedair blynedd ac wyth mis o garchar i gyfreithiwr o Abertawe a gafwyd yn euog o dwyll, trafod arian anonest ac atal cwrs cyfiawnder.

Roedd Benjamin Cornelius o St Andrews Close, Abertawe, yn gyfreithiwr prynu a gwerthu tai ac wedi gweithredu ar ran ffrind o’r enw David Carl Richards o Ryd-y-fro a oedd yn delio mewn cyffuriau.

Yn ôl yr erlyniad roedd wedi helpu i dwyllo trwy gael morgeisi i’w ffrind ac wedi helpu i guddio elw’r fasnach gyffuriau trwy ei helpu i brynu tai. Roedd Benjamin Cornelius wedi gwadu hynny.

Syrthio ymhell

Yn ôl y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Dodd, roedd hi’n gwbl gywir bod y cyfreithiwr wedi ei anfon i’r carchar.

“Does dim amheuaeth bod Cornelius yn gwybod beth oedd busnes Richards a bod yr elw ariannol yr oedd yn ei dderbyn yn dod o ddelio cyffuriau.

“Mae Cornelius wedi syrthio ymhell – roedd ganddo swydd gyda pharch ac ymddiriedaeth o fewn y gymuned ac fe fanteisiodd ar hynny er mwyn elw personol”

“Mae ganddo bellach bedair blynedd i ystyried canlyniadau ei ymddygiad.”

Richards hefyd

Mae David Richards eisoes wedi cael ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar ym mis Gorffennaf 2010 am ddelio cyffuriau.

Fe bleidiodd yn euog i’r un cyhuddiadau â Benjamin Cornelius ac fe gafodd ddedfryd o 30 mis i gyd-redeg gyda’i ddedfryd wreiddiol.