Elin Jones
Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwario bron £8 miliwn er mwyn i ffermwyr allu llenwi eu ceisiadau grant ar-lein.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, y bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno’n raddol rhwng 2013 a 2015 ac y bydd yn arbed arian i’r Llywodraeth ac i ffermwyr.

Ond mae ffermwyr yn dweud bod angen gwella’r dechnoleg yng nghefn gwlad hefyd.

Lleihau costau a chamgymeriadau

“Fe fydd y datblygiad hwn yn chwyldroi’r ffordd y mae’r diwydiant ffermio’n ymwneud â’r Llywodraeth,” meddai Elin Jones. “Bydd hefyd yn lleihau camgymeriadau.”

Ar gyfer y ffurflenni Cais Sengl y bydd y gwasanaeth a’r nod yw y bydd yn gwneud y gwaith yn haws i’r ffermwyr ac yn arbed amser, costau gweinyddol a phapur i’r Llywodraeth, gan leihau ei hôl troed carbon hefyd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru eu bod yn croesawu’r datblygiad ond bod cyflymder band eang yn broblem yng nghefn gwlad Cymru.

“Os na fydd cyflymder y dechnoleg yn gwella, fydd datblygiadau fel hyn ddim o gymaint o werth,” meddai.