Safle hen waith Alwminiwm Mon
Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru wedi rhoi trwydded i losgydd ynni newydd ar safle gwaith Alwminiwm Môn.

Fe ddywedodd yr Asiantaeth y byddai’r drwydded yn golygu bod rhaid i waith Anglesey Aluminium Metal Renewables Limited (AAMR) yng  Nghaergybi “gydymffurfio â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl” gan “amddiffyn cymunedau gerllaw a’r amgylchedd”.

Fe fydd y ffatri yn cynhyrchu trydan drwy losgi sglodion pren a’r gwres yn gyrru tyrbinau stêm.

“Gallaf gadarnhau ein bod wedi rhoi trwydded amgylcheddol i Aluminium Metal Renewables Limited redeg ffatri biomas,” meddai David Edwell, un o reolwyr lleol Asiantaeth Amgylchedd Cymru.

“Mae asesiad trwyadl dros y 12 mis diwethaf yn dangos bod cynlluniau yn eu lle i redeg y ffatri hon i’r safonau uchaf.Mae’n newyddion gwych i’r amgylchedd lleol a’r gymuned leol.”