David Davies - cefnogi'r alwad
Mae Aelod Seneddol o Gymru ymhlith y rhai sy’n galw am wahardd ASau Cymreig rhag pleidleisio ar faterion Seisnig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae David Davies, AS Mynwy, wedi cefnogi cynnig ben-bore yn y Senedd i alw am gyfraith newydd yn sgil y Refferendwm Datganoli yng Nghymru.

Mae’r cynnig – sy’n rhoi cyfle i ASau fynegi barn – yn dweud mai dim ond aelodau o Loegr a ddylai bleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar drigolion Lloegr yn unig.

Fe fyddai hefyd yn gwahardd ASau’r Alban a Gogledd Iwerddon rhag pleidleisio ar nifer sylweddol o fesurau yn y Senedd.

Fe gafodd y cynnig ei osod gan AS Ceidwadol Dewsbury, Simon Reevell, ac mae David Davies ymhlith y prif gefnogwyr. Mae cyfanswm o 12 AS Ceidwadol wedi cefnogi’r cynnig hyd yn hyn.