Purfa olew (Walter Siegmund CCA 3.0)
Fe allai’r cynnydd ym mhris olew arwain at golli rhagor o wasanaethau yng nghefn gwlad Cymru, yn ôl arbenigwr economaidd.

Fe ddywedodd Martin Rhisiart o Brifysgol Morgannwg wrth gylchgrawn Golwg bod ardaloedd gwledig yn cyrraedd “trothwy” o ran ei gallu i ddelio gyda’r cynnydd ym mhris petrol.

Yn ogystal â rhoi pwysau ar unigolion, meddai, mae’n annog cyrff a busnesau i fuddsoddi mewn llefydd mwy canolog, gyda llai o gostau trafnidiaeth.

“Mae hynny’n rhoi pwysau ar gymunedau gwledig,” meddai. “Mae’n mynd yn fwy a mwy costus i fynd i’r gwaith a byw bywyd beunyddiol.”

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg