Mochyn daear
Fe fydd Aelod Cynulliad yn ceisio atal y Llywodraeth rhag difa moch daear yng ngorllewin Cymru.

Ac mae’r Ymddiriedolaeth Foch Daear wedi cadarnhau wrth Golwg360 eu bod yn ystyried cymryd camre cyfreithiol – unwaith eto – i rwystro’r broses.

Fe fydd Peter Black, un o ACau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Ngorllewin De Cymru yn gosod cynnig gerbron y Cynulliad yr wythnos nesa’ i geisio gwyrdroi penderfyniad y Gweinidog Materion Gwledig i ddifa’r anifeiliaid yn Sir Benfro ac mewn rhannau o Geredigion a Sir Gâr.

Fe fydd difa’n gwneud difrod mawr i rywogaeth wyllt, meddai Peter Black, ac fe fydd yn costio £10 miliwn i’r trethdalwyr.

Yn y cyfamser, mae’r Ymddiriedolaeth Foch Daear yn cymryd cyngor cyfreithiol ar ôl i’r Gweinidog gyhoeddi’r wythnos ddiwetha’ y byddai’r difa’n digwydd.

Fe lwyddodd yr Ymddiriedolaeth i rwystro ymdrech gynharach ar ôl ennill achos llys ac maen n hw’n cyhuddo’r Gweinidog, Elin Jones, o guddio canlyniadau’r ymgynghoriad diweddara’ ynglŷn â’r pwnc.

‘Mwyafrif yn erbyn’

Maen nhw’n honni bod mwyafrif o fwy na phedwar i un wedi ymateb yn erbyn y difa ac maen nhw wedi croesawu ymyrraeth Peter Black.

“R’yn ni’n ffieiddio at yr holl broses,” meddai eu llefarydd wrth Golwg 360. “Mae’r penderfyniad yn mynd yn groes i wyddoniaeth. Dyw e ddim yn gymesur chwaith gan y bydd yn arwain at farwolaeth tua 1,000 o foch daear.”

Maen nhw’n dadlau y byddai rheoli symudiadau gwartheg a’u profi’n amlach yn fwy effeithiol ac, er bod moch daear yn gallio cario TB gwartheg, dyw eu difa ddim yn ateb.

Mae ganddyn nhw bron dri mis i benderfynu a ydyn nhw am alw am Arolwg Barnwrol, fel y gwnaethon nhw’r tro diwetha’.

Ateb y Llywodraeth

Dadl Elin Jones yw bod angen difa i ychwanegu at fesurau sydd eisoes yn cael eu cymryd i atal y clefyd sy’n costio degau o filiynau o bunnoedd i Gymru mewn iawndal i ffermwyr am wartheg sy’n cael eu dinistrio.