Logo'r ymgyrch
Mae elusen ganser wedi galw am strategaeth newydd i ddelio gyda’r afiechyd yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad, mae elusen Macmillan yn dweud bod gofal i gleifion yn “afreolaidd ac anghyson” ar draws y wlad.
Maen nhw’n dweud y bydd nifer y bobol sy’n byw gyda chanser yn dyblu yn ystod yr 20 mlynedd nesa’ – o 100,000 ar hyn o bryd i 200,000 erbyn 2030.
Yn ôl yr elusen, mae angen gofal cyson o adeg diagnosis, trwy gyfnod y driniaeth ac ar ôl hynny hefyd.
Tri phwynt
Maen nhw’n galw am weithredu ar dri phwynt:
- Creu cynlluniau gofal personol i bawb sy’n diodde’ o ganser – ar gyfer cyfnod y driniadeth ac wedyn.
- Rhoi digon o wybodaeth i gleifion am yr hyn sy’n eu hwynebu nhw a’r dewisiadau sydd ganddyn nhw – yn ariannol a chymdeithasol yn ogystal ag o ran iechyd.
- Fod pob claf yn cael gweithiwr allweddol i weithio’n benodol gyda nhw.
“ Gan ei bod yn wlad fach, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i allu arloesi gyda gwasanaethau canser o safon ryngwladol, sy’n cefnogi pobol i fyw gyda chanser,” meddai’r elusen.
“Gydag arweinyddiaeth ddewr, bydd strategaeth ganser gynhwysfawr yn mynnu bod y Gwasanaeth Iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a’r mudiadau gwirfoddol yn gweithio’n well er mwyn cynnig y cymorth sydd ei eisiau a’i angen ar bobol, ar yr adeg iawn ac yn y man iawn.”