Mae perchennog siop lyfrau o waith Dylan Thomas yn Abertawe wedi dechrau grŵp ar wefan Facebook i ‘achub Canolfan Dylan Thomas’.

Mae Jeff Towns, Perchennog siop Dylans Bookstore yn Abertawe wedi sefydlu’r grŵp ar ôl iddo ddeall bod dyfodol y ganolfan yn ei safle presennol yn y fantol – a hynny oherwydd problemau ariannol.

Dywedodd wrth Golwg360 ei fod ar ddeall bod perygl y bydd Arddangosfa Dylan Thomas a’r rhaglenni llenyddol sy’n cael eu cynnal yn y Ganolfan bresennol yn cael eu symud i “rywle wrth ochr y Grand Theatre”.

Eisoes, mae’r  Ganolfan  bresennol wedi bod yn gartref arddangosfa barhaol o waith a bywyd Dylan Thomas ers bron i bymtheng mlynedd. Mae caffi, siop lyfrau ac ystafell gynhadledd yn rhan o’r Ganolfan ac mae digwyddiadau llenyddol yn cael eu cynnal yno drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys Gŵyl Dylan Thomas.

‘Atyniad’

“Mae Canolfan Dylan Thomas yng Nghanol y llwybr twristiaeth yn Abertawe.  Mae’n atyniad   – mae pobl yn dod yno i fwynhau’r arddangosfa, bwyta ac yfed coffi,” meddai Jeff Towns cyn sôn ei fod wedi  darparu llyfrau ar gyfer y siop yn y Ganolfan ac wedi gwerthu casgliadau o waith Dylan Thomas i’r Cyngor arddangos yno.

Mae’n gwrthwynebu symud yr Arddangosfa oddi yno ac yn dweud y byddai’n tarfu ar ddathliadau canmlwyddiant geni’r awdur enwog yn 2014.

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i gwneud hi’n glir eu bod nhw eisiau dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas,” meddai. “Dyw’r Ganolfan ddim yn ‘Ganolfan Dylan Thomas’ os yw’r awdurdodau’n symud yr Arddangosfa i adeilad arall.”

Ymateb Cyngor Abertawe

Cyngor Abertawe biau adeilad Canolfan Dylan Thomas.

Fe ddywedodd y Cyngor mewn datganiad wrth Golwg360 eu bod yn “trafod gyda Phrifysgol Cymru am gytundeb menter ar y cyd a fydd yn sicrhau dyfodol Canolfan Dylan Thomas yn yr ardal forol”.

“Bydd y fenter ar y cyd – ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru – yn ein galluogi ni i sicrhau dyfodol Canolfan Dylan Thomas yn y cyfnod economaidd anodd hwn pan fo arian yn brin,” meddai’r  Cynghorydd Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth.

“Mae trafodaethau manwl yn parhau, ac er nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud am leoliad arddangosfa Dylan Thomas, bydd yn sicr yn cael ei gwella i roi profiad gwell i ymwelwyr nag erioed o’r blaen.”

Fe ddywedodd Prifysgol Cymru bod “trafodaethau’n parhau” ond eu bod yn “gweithio gyda Chyngor Abertawe i ganfod ffyrdd o sicrhau dyfodol llwyddiannus a hirdymor Canolfan Dylan Thomas.”

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi dechrau trafod gyda Llywodraeth y Cynulliad beth fyddai’r ffordd orau o ddathlu 100 mlynedd ers geni’r bardd yn 2014.

Mae’r Cyngor yn pwysleisio bydd yr “arddangosfa yn cael ei gwella cyn cynlluniau i ddathlu 100 mlwyddiant ei eni yn 2014.”