Y Tywysog William a'i ddyweddi, Kate Middleton
 Mae Telynores Swyddogol Tywysog Cymru wedi dweud ei bod yn ‘gwireddu breuddwyd’ ar ôl cael gwahoddiad i berfformio yn Nerbyniad y Frenhines ym mhriodas y Tywysog William â Catherine Middleton ar 29 Ebrill.

 Fe fu Claire Jones yn siarad gyda Golwg360 am ei phrofiadau ac ymateb pobl gartref yng Nghrymych i’r newyddion.

 “Rydw i wrth fy modd i gael gwahoddiad i berfformio yn Nerbyniad y Frenhines yn dilyn priodas y Tywysog William i Miss Catherine Middleton … Mae’n wir anrhydedd,” meddai Claire Jones, Telynores Swyddogol i Dywysog Cymru.

 Sylw rhyngwladol i Gymraes

 Fe gafodd Claire Jones o Grymych ei phenodi’n delynores i Dywysog Cymru yn 2007. Ers hynny, mae wedi perfformio mewn dros 150 o ddigwyddiadau, meddai. 

 “Roeddwn i’n cerdded rownd Crymych fore ‘ma a phobl yn dweud wrtha i y byddai’n rhannu’r profiad o chwarae yn y derbyniad gyda fy mhlant rhyw ddydd.

 “Mae bron â bod parti mawr yng Nghrymych. Mae pobl wedi bod yn hala negeseuon ataf o America, Gwlad Belg, Canada a Toronto ar ôl clywed y newyddion,” meddai cyn sôn ei bod eisoes wedi siarad â gwasanaethau newyddion rhyngwladol fel CBS, CNN a rhwydwaith newyddion ABC ers cyhoeddi’r newyddion am ei chyfraniad i’r digwyddiad ddoe. 

 Fe ddywedodd bod cael cynrychioli Tywysog Cymru ar lwyafn y briodas yn “golygu lot” a bod ei gwreiddiau’n “ddwfn yng Nghymru.”

 “Mae’r Eisteddfod, y profiad diwylliannol dw i wedi’i gael yma yng Nghymru a’r rhaglenni teledu wedi dod â fi at le yr ydw i rŵan. Mae Cymry o hyd y tu ôl i mi ac mae’n golygu gymaint i mi.”

 Fe ddywedodd ei bod yn “edrych ymlaen nawr at drafod repertoire ar gyfer y derbyniad” a’i bod yn disgwyl “cynnwys cerddoriaeth o Gymru i ddathlu cysylltiad y pâr ifanc gyda gogledd Cymru” yn ogystal â cherddoriaeth glasurol.

 “Mae’n achlysur hanesyddol – un bythgofiadwy. Mae’n gwireddu breuddwyd i fi,”  meddai.

 Diwedd Tymor?

 Mae’n bosibl y bydd tymor Claire Jones fel Telynores Swyddogol y Tywysog yn dod i ben ar ddiwedd yr haf. “Mae’r swydd wedi bod yn ffantastig i mi.

 “Yn amlwg, byddai’n gweld ishe’r swydd. Ond, dwy flynedd oedd y gwaith i fod yn wreiddiol ac fe ges i estyniad dwy flynedd arall gan y Tywysog.”

 Ymhlith uchafbwyntiau Claire Jones mae chwarae i’r Frenhines ym Mhalas Buckingham ar ddechrau ei chyfnod fel Telynores Swyddogol y Tywysog.

 “Fe ges i gyfle i sgwrsio â hi ac roedd hi eisiau gwybod popeth am y delyn ac yn gwybod mod i wedi chware i’w mab.”