Ieuan Wyn Jones
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud bod ffigurau gwaith diweddaraf i Gymru’n dal i ddangos darlun economaidd ansicr ar draws Cymru a gwledydd Prydain.

 Mae diweithdra ym Mhrydain uwch nag y mae wedi bod ers 17 mlynedd, a diweithdra ieuenctid yn uwch nag erioed, yn ôl ffigurau cafodd eu cyhoeddi heddiw. 

 Ond mae’r nifer o bobl mewn gwaith wedi cynyddu 32,000 i 29.16 – y nifer uchaf ers hydref y llynedd.

 “Er bod yr ystadegau newydd yn awgrymu sefydlogrwydd cyffredinol yn y farchnad lafur yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfun fel ei gilydd, mae’r darlun cyffredinol yn dal yn un eiddil,” meddai Ieuan Wyn Jones. 

 “Er gwaethaf i’r nifer o bobl gyda swyddi yng Nghymru godi ychydig, mae’n glir na allwn ni fforddio peryglu’n hadferiad economaidd. 

 “Byddwn ni’n parhau i wneud beth bynnag y gallwn i ddenu a datblygu swyddi o ansawdd a thâl uchel i sicrhau ein bod ni’n cynnal y gwelliant hwn a gyrru ymlaen ein hadferiad economaidd.”