Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am nad ydyn nhw beth wedi cyflwyno adolygiad o’r cynllun rheoli tir amaethyddol, Glastir.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, fod hyn enghraifft arall o adroddiad oedd “wedi ei addo, ond sydd wedi methu ag ymddangos mewn pryd.”

Roedd disgwyl canlyniadau yr arolwg annibynnol, sy’n dilyn ymateb siomedig y sector amaethyddol i gynllun rheoli tir newydd Glsatir, erbyn diwedd Chwefror eleni.

Dros bythefnos yn ddiweddarach, mae rhai nawr yn poeni bod amser yn mynd yn brin er mwyn ystyried y casgliadau a chyflwyno newidiadau i’r cynllun cyn y rownd nesaf o geisiadau Glastir yn yr hydref.

“Fe ddyliem ni gyd gael yr hawl i weld yr adroddiad hwn, a dadansoddi ei gasgliadau, fel yr addawyd – mor gynted a phosib,” meddai Nick Bourne, gan amau a oedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, hyd yn oed yn gwybod os bod yr adroddiad hyd yn oed yn bodoli.

“Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn gwbwl ansicr ynglyn â bodolaeth yr adroddiad,” meddai, “a doedd ganddo ddim syniad os oedd ei Weinidog Materion Gwledig wedi gweld copi ohono.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Materion Gwledig wrth Golwg 360 heddiw fod y panel adolygu wedi cwblhau eu gwaith erbyn hyn, ac y dylid disgwyl cyhoeddiad swyddogol gan y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, yr wythnos nesaf.