Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi methu cael trefn ar Gyngor Môn hyd yma, yn ôl adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 Wrth drafod gwendidau sylfaenol ynghylch ffordd y caiff y cyngor ei lywodraethu, dywed yr adroddiad fod cynghorwyr “yn ceisio grym er mwyn cael grym, neu’r manteision a ddaw yn ei sgîl i unigolion neu’r wardiau a gynrychiolir ganddynt”.

 Mae’r adroddiad yn awgrymu hefyd fod “diffyg amrywiaeth” y Cyngor yn “cyfrannu at y diwylliant hwn a hefyd yn atal aelodau newydd rhag sefyll mewn etholiad”.

 Mae’n rhaid i Weinidogion y Cynulliad chwarae mwy o ran yn y broses o redeg y Cyngor, yn ôl yr adroddiad, sy’n cydnabod bod rhywfaint o welliant wedi bod ers i’w hymyrraeth gychwyn ddwy flynedd yn ôl.

 Dywed y dylai Gweinidogion orchymyn bod swyddogaethau gweithredol y cyngor yn cael eu cyflawni gan gomisiynwyr, ac y dylen nhw gadw’r grym i benodi Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, ond gan roi mwy o eglurder wrth nodi cylch gorchwyl y swydd.

 Mae’r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn argymell y dylai Gweinidogion ystyried cyfarwyddo’r Cyngor i gynnal refferendwm sy’n ceisio barn etholwyr Ynys Môn ar newid model llywodraethu’r Cyngor i fodel Maer a Chabinet a Etholir yn Uniongyrchol.