Jane Hutt
Mae rhai cynlluniau adeiladu dadleuol wedi cael eu gohirio neu eu hatal oherwydd toriadau ariannol Llywodraeth Cymru, ond fe fydd eraill yn parhau.

Ymhlith y cynlluniau sy’n cael eu gohirio am flwyddyn mae’r bwriad i ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Tywyn yng Ngwynedd, lle bu rhieni’n gwrthwynebu cau ysgolion bach.

Ond fe fydd cynllun yr un mor ddadleuol i gau ac uno ysgolion uwchradd yn ardal Dinefwr yn parhau, yn ôl datganiad gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

Gwario cyfalaf sydd wedi cael ei dorri fwya’ o fewn y gyllideb yn sgil y toriadau gwario gan Lywodraeth Llundain.

Aros a mynd

Ymhlith cynlluniau sy’n mynd yn eu blaenau, mae:

  • Prosiect i wario £11.19 miliwn ar wella’r A470 o boptu i Ddolgellau, rhwng y Cross Foxes a’r Ganllwyd.
  • Cynllun gwerth £18.43 miliwn i greu Parc Iechyd ym Merthyr, gan dynnu nifer o wasanaethau gwahanol at ei gilydd.
  • Gwario gwerth £22.23 yn Ysbyty Treforys, Abertawe – ynghynt y mis yma, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod rhai o’r cyfleusterau yno’n annigonol.
  • Ond, am y tro, fydd dim gorsaf drenau newydd yng nghanol Glyn Ebwy nac Ysbyty Gymunedol newydd yn Aberaeron, lle mae problemau tir hefyd yn llesteirio’r gwaith.

Yn ôl Jane Hutt, mae rhai o’r cynlluniau – fel yr un yn Nhywyn – mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol ac fe allai cynghorau benderfynu bwrw ymlaen beth bynnag.