Cadeirydd y Pwyllgor, Kirsty Williams
Fe allai Cymru symud gam yn nes at ddeddf newydd i reoli trefniadau cynllunio ar ôl dadl yn y Cynulliad heddiw.

Fe fydd ACau’n trafod adroddiad gan bwyllgor o bob plaid a oedd wedi galw am gyfraith newydd os oedd y refferendwm datganoli’n llwyddiant.

Mae’n dweud bod angen newid y ddeddf yng Nghymru oherwydd bod polisi yma’n sylfaenol wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod y system bellach yn gorfod delio gyda rhes o bolisïau, gan gynnwys cynaladwyedd, a materion cymdeithasol ac economaidd nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn ffitio’n gyfforddus i’r drefn.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Cynaladwyedd roedd datblygiadau yn y maes hefyd yn galw am ragor o arbenigedd technegol ar ran swyddogion.

“Yn amlwg, mae rhai elfennau lle mae angen newid,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Kirsty Williams.

  • Roedd y Pwyllgor hefyd wedi galw am ddiweddaru’r polisi ar gynllunio a’r iaith Gymraeg – dyw hwnnw ddim wedi ei ddiweddaru ers y flwyddyn 2000, medden nhw, er gwaetha’ addewid yng nghytundeb Llywodraeth y glymblaid, Cymru’n Un.