Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyfaddef bod adroddiad beirniadol o’r ffordd y caiff yr henoed eu trin mewn ysbytai yn fater difrifol. 

Roedd yn ymateb i adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Gomisiynydd yr Henoed, Ruth Marks, sy’n dweud bod gofal mewn rhai ysbytai yn gywilyddus o annigonol. 

 Mae ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall hefyd wedi datgan ei bryderon bod pensiynwyr yn cael eu gadael i lawr gan “ddiwylliant o esgeuluso.”

 Fe ddaw geiriau Peter Tyndall mewn cyfweliad gyda’r BBC lle ddywedodd bod y sicrwydd gan reolwyr Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol dros welliannau yn mynd yn “fwyfwy gwag.”

 Mae Carwyn Jones wedi ymateb ar ôl i Aelodau Cynulliad ofyn iddo heddiw a fyddai Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo i weithredu’r argymhellion sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. 

 “Mae materion difrifol wedi cael eu codi ac mae’r adroddiad yn haeddu cael ei ystyried ymhellach er mwyn delio gyda hwy’n briodol,” meddai Carwyn Jones. 

 Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi amddiffyn y cynnydd o bron i 70% yn y nifer o gwynion yn ymwneud ag iechyd dros y pum mlynedd diwethaf. 

 “Mae’n dangos bod system yr ombwdsman yn gweithio’n effeithiol.  Mae hefyd yn golygu bod pobl yn cael eu hannog i wneud cwynion, lle na fyddent wedi gwneud hynny flynyddoedd yn ôl,” meddai. 

 “Ry’n ni’n croesawu hynny fel esiampl o dryloywder y gwasanaeth iechyd.”