Mae crys T sy’n gallu cael ei chwarae fel gitâr ac a gafodd ei gynllunio gan raddedigion o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer am wobr technoleg yn yr Unol Daleithiau.
Mae cwmni dylunio FauvelKhan, a gafodd ei sefydlu gan fyfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Abertawe, Luke Khan a Warren Fauvel, yn cystadlu am wobr SXSW Accelerator yn Austin Texas. Dyma’r unig gwmni o Ewrop sydd wedi cael ei gydnabod yn y seremoni gwobrwyo.
Mae eu crys T yn gallu troi mewn i fod yn gitâr awyr gyda phobl yn gallu ei chwarae fel offeryn cerddorol.
Mae gan y crys T symbol cod bar ar y blaen a phan mae’n cael ei weld gan gwe-gam, mae nodau’n gallu cael eu chwarae ar y cyfrifiadur.
Yn wreiddiol fe gafodd y crys T ei gynllunio’n eitem marchnata ar gyfer y band The Last Republic. Ond maen nhw’n awr yn gobeithio y bydd yn llwyddiant ar draws y diwydiant cerddoriaeth.
“Roedd yn sioc i fod yr unig gwmni o Ewrop i gyrraedd y rhestr fer,” meddai Luke Khan.
“Roedd cael ein dewis i’r wyth uchaf allan o 400 o ymgeiswyr yn destament i waith caled ein tîm.
“Mae’r gydnabyddiaeth yma’n ein rhoi ni ar lwyfan y byd ac mae’n gyffrous i feddwl beth mae’n golygu i’r cwmni wrth symud ymlaen.”