Mae dyn 27 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn y cafwyd hyd iddo gyda llosgiadau difrifol ar dir gwesty yn ne Cymru. 

Fe ddywedodd Heddlu Gwent bod y dyn a oedd yn ei 30au wedi dioddef ymosodiad cyn cael ei ddarganfod o flaen gwesty Gateway Express ar Chepstow Road yng Nghasnewydd yn hwyr nos Fercher diwethaf.  Bu farw’r dyn yn adran llosgiadau yn Ysbyty Treforys. 

 Roedd yr heddlu wedi rhyddhau lluniau o datws y dyn mewn ymdrech i’w adnabod. 

 Ond mae’r heddlu erbyn hyn wedi dod i wybod pwy yw’r dyn fu farw, er nad ydynt wedi rhyddhau ei enw eto. 

 Mae disgwyl i’r dyn 27 oed, sydd o ardal Casnewydd, ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili heddiw.