Mae dyn a oedd yn rheoli rhwydwaith puteindra wedi derbyn gorchymyn i dalu £2m o enillion troseddol neu wynebu deng mlynedd arall dan glo.
Mae’r Gwyddel Thomas Carroll eisoes wedi cael ei garcharu am saith mlynedd yng Nghymru am reoli puteindra a gwyngalchu arian.
Ond mae barnwr yn Llys y Goron Caerdydd wedi caniatáu gorchymyn atafaeliad o £1,902,496 wrth yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol.
Mae asedau Thomas Carroll yn cynnwys pedwar tŷ yng Nghymru, tri thŷ yn Ne Affrica a phedwar car.
Roedd Thomas Carroll sy’n wreiddiol o Bagenalstown, Co Carlow wedi ffoi o Weriniaeth Iwerddon am Gymru ar ôl cael ei holi gan awdurdodau yno ynglŷn â’i rwydwaith o buteindai.
Roedd y Gwyddel ynghyd a’i bartner, Shamiela Clark, 33, a’i ferch 27 oed, Toma Carroll wedi parhau i reoli’r busnes o’i dŷ yng Nghastellmartin yn Sir Benfro.
Fe gafodd y ddwy fenyw hefyd eu carcharu am eu rhan yn y busnes puteindra a oedd yn cynnwys masnachu mewn menywod o Nigeria i Iwerddon a’u gorfodi i weithio’n buteiniaid ar draws y wlad.
Fe gafodd Shameila Clark ei charcharu am ddwy flynedd a hanner gyda Toma Carroll yn cael dedfryd o ddwy flynedd am ei rhan yn y cynllwyn.