Mae un o gynhyrchwyr teledu cyntaf y BBC yng Nghymru, Selwyn Roderick wedi marw yn 82 oed. 

Roedd Selwyn Roderick wedi gweithio ar raglenni megis ‘Songs of Praise’, ‘Come Dancing’ a ‘Wales, Wales!’ trwy gyfrwng y Saesneg. 

 Roedd hefyd yn adnabyddus am ei waith ar raglen ddogfen ‘Plant y Paith’ am Batagonia gydag Owen Edwards. 

 Ond ei waith ar raglen ddogfen ‘Tamed and Shabby Tiger’ am fywyd yn Tiger Bay sy’n cael ei ystyried ymysg ei oreuon. 

 “Roedd Selwyn Roderick yn un o wir arloeswyr darlledu – yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith y BBC,” meddai’r  Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones. 

 “Roedd ar flaen y gad wrth ddatblygu teledu yng Nghymru ac mae modd i ni fod yn eithriadol o ddiolchgar iddo am y gwaith a wnaeth ef a’i gyfoedion.

 “Bydd Selwyn Roderick yn cael ei gofio fel un a dorrodd dir newydd, yn llawn dychymyg.

 “Roedd yn hynod falch o’i wreiddiau fel un o ddisgynyddion William Williams Pantycelyn, ac mae diwylliant cyfoes Cymru’n gyfoethocach oherwydd cyfraniad gwerthfawr yr arloeswr hwn.”