Ambiwlans Awyr
Mae Heddlu De Cymru yn dweud fod un dyn wedi marw ac un arall yn yr ysbyty ar ôl i awyren ysgafn chwalu  mewn cae ym Mhontarddulais.

Mae’n debyg fod yr awyren dwy sedd wedi troi drosodd wrth geisio glanio ger Abertawe toc wedi 1.30pm heddiw.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Adran Ddamweiniau Awyr yr Adran Drafnidiaeth.

Aethpwyd a’r dyn sydd wedi ei anafu i Ysbyty Treforys, Abertawe, mewn ambiwlans awyr.