Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae dynes 83 mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad car yn y Barri.

Roedd y ddynes ar droed pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhyngddi hi a Volkswagen Passat oedd yn cael ei yrru gan ddyn 53 oed .

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Broad Street toc cyn 6.30pm ddydd Sadwrn. Cafodd y ffordd ei gau am ddwy awr a hanner wrth i’r heddlu ymchwilio.

Aethpwyd a’r ddynes i Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Mae ganddi anafiadau difrifol i’w phen, ei choesau, ei brest a’i chefn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 633438 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.