Mochyn daear
Mae gitarydd band Queen, Brian May, wedi ymbil ar y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, i atal y cynlluniau i ladd moch daear yn Sir Benfro.

Mewn cyfweliad apocalyptaidd â phapur newydd y Wales on Sunday dywedodd y byddai cefn gwlad Cymru “yn waed i gyd”.

“Rhowch y gorau iddi, Elin Jones – mae yna gyfle i chi fod yn berson da,” meddai’r rociwr 63 oed.

Rhybuddiodd y byddai pobol Cymru yn “dechrau casáu ffermwyr” petai’r cynllun i ddifa moch daear yn Sir Benfro a rhai rhannau o Sir Gar a Ceredigion yn mynd rhagddo.

Cafodd y cynllun gwreiddiol ei wrthdroi gan y Llys Apêl y llynedd ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Moch Daear a Brian May ennill her gyfreithiol.

Ond ddydd Mercher cyhoeddodd Elin Jones y byddai’r bwrw ymlaen â’r cynllun, gyda’r nod o leihau lefelau TB ychol mewn gwartheg.

Mae disgwyl i tua 1,400 o’r moch daear yng Nghymru gael eu dal a’u saethu.

“Mae lefelau TB ychol yn disgyn ar hyn o bryd felly mae’n warthus eu bod nhw’n mynd i ladd anifeiliaid diniwed,” meddai Brian May.

“Fe allech chi ladd yr holl foch daear ac fe fyddai’r afiechyd yn bodoli ym Mhrydain o hyd mewn 10 mlynedd.”