Llys y Goron Abertawe
Mae arweinydd cwlt oedd wedi ymosod ar blant a gorfodi merched i fod yn buteiniaid wedi ei garcharu am gyfnod amhenodol gan Lys y Goron Abertawe heddiw.

Cafwyd Colin Batley, 48, a tri aelod benywaidd o’i gwlt yn euog o ddwsinau o droseddau rhywiol ddydd Mercher.

Colin Batley oedd arweinydd y cwlt oedd yn cynnal y defodau mewn cartrefi tawel ar heol hosan yng Nghydweli.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod yn euog o bob un ond un o’r 36 o gyhuddiadau yr oedd wedi eu gwadu yn ystod yr achos llys pum wythnos o hyd.

Fe fydd Colin Batley yn treulio o leia’ 11 mlynedd yn y carchar ond cafodd wybod y gallai wynebu oes dan glo.

Cafodd Elaine Batley, 47, ei charcharu am wyth mlynedd,  tra bod Jacqueline Marling, 42, wedi derbyn dedfryd o 12 mlynedd. Fe gafodd Shelly Millar, 35, bum mlynedd o garchar.

Fe gafodd Vincent Barden, 70, nad oedd yn aelod o’r cwlt ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef i ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferch dan oed.

‘Anfad’

Symudodd Colin Batley ac aelodau eraill y cwlt o Lundain i Gymru yn y 90au a sefydlu’r cwlt yng Nghydweli.

Roedd y cwlt cythreulig wedi bod yn troseddu’n rhywiol am flynyddoedd heb i neb o’r gymuned leol sylweddoli fod unrhyw beth o’i le.

Wrth ddedfrydu Colin Batley fe ddywedodd y Barnwr Paul Thomas QC ei fod yn ddyn “anfad”.

Dywedodd i fod wedi defnyddio’r cwlt er mwyn rheoli ei ddioddefwyr.

Croesawu’r dyfarniad

Yn dilyn y gwrandawiad heddiw, dywedodd dioddefwyr y cwlt eu bod nhw’n croesawu’r dedfrydau.

Darllenodd Cwnstabl Lynsey David o Heddlu Dyfed Powys, ddatganiad ar y cyd gan y dioddefwyr oedd yn rhan o’r achos.

“Mae wedi bod yn daith hunllefus i bob un ohonom ac r’yn ni i gyd yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau newydd i ni,” meddai’r datganiad.

“R’yn ni wedi dioddef y gwaethaf y gallai bywyd ei daflu atom ni ac r’yn i ni gyd yn awyddus i symud ymlaen gyda’n bywydau.”

Mae’r dioddefwyr hefyd wedi annog unrhyw un arall sydd wedi eu cam-drin i gysylltu gyda’r heddlu.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Bergmanski bod yr heddlu yn hapus iawn gyda chanlyniad yr achos.