Cyfrifiad 2011
Bydd gwaith tîm o gyfieithwyr i’w weld ym mhob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf.

Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wedi rhoi help llaw wrth lunio holiaduron Cyfrifiad 2011, fydd yn glanio drwy bob blwch post yn y wlad.

Penderfynodd y Swyddfa Ystadegau alw am gymorth y  ganolfan yn dilyn beirniadaeth yn y gorffennol fod iaith y fersiwn Gymraeg yn anodd ac anystwyth.

Eleri Jones o Uned Cymraeg Clir y ganolfan sydd wedi bod wrth galon y  gwaith o sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn un y gall siaradwyr Cymraeg ei deall a’i defnyddio yn ddidrafferth.

Am y tro cyntaf yn hanes y cyfrifiad, mae holiadur Cymraeg 2011 wedi ei ddatblygu ar y cyd â’r fersiwn Saesneg, a hynny gyda chefnogaeth tîm o arbenigwyr, yn cynnwys arweinydd Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr.

“Fy rôl i oedd ceisio cadw iaith yr holiaduron mor glir, syml a naturiol â phosib fel bod Cymry Cymraeg a dysgwyr o bob oed a gallu’n fodlon mynd ati i lenwi holiadur Cymraeg,” meddai Eleri Jones.