Fe fu dyn farw ar ôl gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ger Caerdydd brynhawn ddoe.
Mae Heddlu De Cymru yn galw am lygaid dystion i’r gwrthdrawiad am 12.35pm ar y ffordd ddwyreiniol rhwng cyffyrdd 33 a 32.
Gadawodd fan Vauxhall Combo gwyn y ffordd a throi drosodd ar y clawdd.
Cafodd y gyrrwr 62 oed ei dynnu o’r car gan aelodau o’r cyhoedd a’i drin yn y fan a’r lle gan ddoctoriaid a pharafeddygon. Ond er gwaethaf eu hymdrechion fe fu farw.
Yn ogystal a’r heddlu cafodd y gwasanaeth tân hefyd eu galw i roi cymorth.
Cafodd y ffordd ei gau dros dro am ddwy awr a hanner wrth i’r heddlu ymchwilio.
Mae’r heddlu eisiau siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a stopiodd er mwyn rhoi cymorth.
Ffoniwch 02920 633438 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.