Llun o'r wefan
Caiff gwefan newydd ar gyfer pobl â chlefyd yr aren yng Nghymru ei lansio heddiw i gynnig cefnogaeth i gannoedd o deuluoedd yn y Gymraeg a Saesneg.

Er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol yr Aren heddiw, mae Sefydliad Aren Cymru wedi lansio Pobol fel Ni Cymru, sef gwefan sy’n cynnig cefnogaeth i gleifion o Gymru a’u teuluoedd.

Mae’r wefan, gafodd ei lansio gan gleifion sy’n cael triniaeth dialysis yn uned arennol Ysbyty Sant Woolos yng Nghasnewydd, yn cynnwys gwybodaeth am ddialysis a chlefyd yr aren mewn modd syml i’w ddeall.

“Mae cleifion yng Nghymru wedi bod yn dweud wrthym ni fod angen adnodd penodol ble gallent ddod o hyd i wybodaeth am bob agwedd o glefyd yr aren a fforwm ble gallent rannu eu teimladau â chleifion eraill sy’n profi’r un peth,” meddai golygydd y wefan, Melanie Wager, a dderbyniodd trawsblaniad aren y flwyddyn ddiwethaf.

‘Syniadau a chyngor’

“Rwy’n gwybod, trwy fy mhrofiad i gyda chlefyd yr aren, pa mor bwysig yw hi i gleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau gael ffynhonnell ble gallent gael syniadau a chyngor,” meddai.

“Bydd Pobol Fel Ni Cymru yn cael ei redeg gan bobl fel ni, ar gyfer pobl fel ni – sydd wedi profi’r peth a wir yn gwybod sut beth yw’r profiad.

Mae’r wefan yn cynnwys Fforwm rhyngweithiol – ble y gall pobl rannu eu pryderon 24 awr y dydd.

Mae’r wefan hefyd ac yn egluro termau meddygol i helpu cleifion, ac yn cynnig cyfle i holi clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.

“Rwy’n falch iawn i allu lansio’r wefan newydd yma heddiw i helpu i ddarparu cefnogaeth a chyngor i gannoedd o deuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda chlefyd yr aren,” meddai Roy Thomas, Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Aren Cymru.