Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 32 oed wedi pledio’n euog i ddynladdiad wrth ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Plediodd John Michael Constantine,32 oed, yn euog i ddynladdiad Karen Welsh, 52. Cafodd ei gadw yn y ddalfa am gyfnod amhenodol dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Daethpwyd o hyd i gorff Karen Welsh yn Lowfield Drive, Draenen Pen-y-Graig, Caerdydd ar 2 Mawrth 2010.

Ar ôl yr achos llys heddiw dywedodd teulu Karen Welsh, eu bod nhw’n “hapus bod yr achos wedi dod i ben a chyfiawnder wedi ei sicrhau”.

“Nawr mae’n rhaid i ni ddechrau dod i delerau gyda’r trasiedi erchyll yma a cheisio byw bywydau normal unwaith eto,” meddai llefarydd ar ran y teulu.

“Ni fydd unrhyw beth byth yn disodli Karen ac mae yna hollt enfawr yn ein bywydau ni nawr.

“Hoffwn ni ddiolch i Heddlu De Cymru a phawb arall sydd wedi ein cefnogi ni drwy’r amser caled yma.”