Arwel Ellis Owen
Mae Prif Weithredwr Dros Dro S4C wedi amddiffyn amseru adroddiad newydd ar ddyfodol y sianel tu hwnt i 2012.

Yn ôl Arwel Elis Owen, mae’n rhaid cynllunio ar gyfer rhaglenni ac amserlen y tair blynedd nesaf, er nad oedd Cadeirydd newydd wedi’i benodi i’r Awdurdod adeg llunio’r adroddiad, a’i fod ond yn y swydd tan ddiwedd Gorffennaf.

“Mae’n rhaid i ni gomisiynu o fis Ionawr y flwyddyn nesaf ymlaen,” meddai.

“Ein blaenoriaeth gyntaf wedi i’r llywodraeth gyhoeddi cwtogi oedd gwneud amserlen eleni yn saff ac mi ydan ni wedi gwneud ac yn ddigon naturiol mae angen symud ymlaen i 2015.”

Roedd yr Adran Ddiwylliant yn San Steffan, y DCMS, am gwtogi cyllideb y sianel o £6 miliwn y flwyddyn am dair blynedd. Ond mae’r sianel wedi penderfynu torri’r gyllideb i £65 miliwn o 2012.

“Mae’r toriadau yn dod mewn ar Ebrill 1 eleni,” meddai Arwel Elis Owen.

“Rhaid i ni ddod lan â gwasanaeth sydd yn apelgar i’r gynulleidfa, yn heriol i’r gynulleidfa ac yn siwtio’r gynulleidfa.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth