Mae’r pêl-droediwr bytholwyrdd o Gymru, Ryan Giggs, wedi lansio DVD ffitrwydd newydd heddiw.

Mae Giggs Fitness: Strength & Conditioning, Inspired By Yoga eisoes un o DVDs ffitrwydd mwyaf poblogaidd siop HMV.

Mae’r DVD yn esbonio sut y mae Ryan Giggs yn ‘cynnal ei hyblygrwydd corfforol’ drwy ymarferion sydd wedi eu hysbrydoli gan Yoga.

Mae DVD y peldroediwr 37 blwydd oed yn cynnwys ymarferion sy’n para tua 40 munud o hyd.

Bydd y DVD yn cystadlu yn erbyn canllawiau brwydro bloneg ffigyrau eraill poblogaidd ym myd ffitrwydd, gan gynnwys Davina McCall a Claire Nasir.